Cyfarchion y Prifathro

            Ar ran y disgyblion, y staff a’r llywodraethwyr hoffwn eich croesawu i wefan newydd yr ysgol. Credwn fod ein hysgol yn le arbennig a mawr obeithiwn fod pawb sy’n ei mynychu wrth eu boddau.

           Mae’r ysgol yn boblogaidd ac yn cynnwys yr holl offer technegol diweddaraf. Ynddi y mae wyth ystafell ddosbarth, ystafell gyfrifiaduron, llyfrgell, neuadd, campfa, neuadd ginio a meysydd chwarae eang.

            Mae’r llywodraethwyr a’r staff yn cydweithio i ddarparu addysg o’r radd flaenaf o fewn awyrgylch ddysgu hapus anogol a diogel.

            Rydym yn hybu’r plant i fod yn unigolion annibynnol ac hyderus ac yn eu hannog i gymryd cyfrifoldeb dros eu haddysg eu hunain. Credwn yn gryf fod y plant are eu gorau pan y mae staff a rhieni’n cydweithio’n glos ac felly gwerthfawrogwn eich cyfraniad o ran datblygiad addysgol eich plentyn . ‘Rydym yn hyrwyddo’r ymddygiad orau phosib fel y gall bob disgybl gyflawni ei lawn botensial.

            Gobeithiwn y cewch flas ar fywyd beunyddiol ein hysgol drwy bori trwy’r wefan hon. Cyhoeddir cylchlythyron yn rheolaidd a gallwch gysylltu a’r ysgol drwy glicio ar yr eicon gyswllt. Mawr obeithiaf y gwnewch fwynhau’r wefan a gyfansoddwyd gan staff a disgyblion yr ysgol.