Croeso gan y Pennaeth

Gary M. Anderson B.Add. C.P.C.P.

Click here for English Version

Ar ran y disgyblion, y staff a’r llywodraethwyr hoffwn eich croesawu i'n gwefan.
Mae Ysgol Iau Llangennech yn le croesawgar, arbennig lle mae pob disgybl yn cael eu cynnwys ym mhob gweithgaredd. Ein prif nod yn yr ysgol hapus hon yw sicrhau fod pob unigolyn yn cyrraedd eu gwir potensial.
Mae’r ysgol yn boblogaidd ac yn cynnwys yr holl offer technegol diweddaraf. Ceir ynddi wyth ystafell ddosbarth, ystafell gyfrifiaduron, llyfrgell, neuadd, campfa a neuadd ginio. Rydym yn falch iawn o'n tir naturiol rhagorol sydd yn cynnwys ardal addysgol allanol, gardd ysgol a caeau ac ardaloedd chwarae eang iawn sydd yn elwa o gysgod coed derw aeddfed.
 
Mae’r llywodraethwyr a’r staff yn cydweithio i ddarparu addysg o’r radd flaenaf o fewn awyrgylch ddysgu hapus, anogol a diogel.
Rydym yn hybu’r plant i fod yn unigolion annibynnol ac hyderus ac yn eu hannog i gymryd cyfrifoldeb dros eu haddysg eu hunain. Credwn yn gryf fod y plant ar eu gorau pan y mae staff a rhieni’n cydweithio’n glos ac felly gwerthfawrogwn cyfraniad y rhieni wrth ddatblygu addysgu ein plant. Rydym yn hyrwyddo’r ymddygiad orau phosib fel y gall bob disgybl gyflawni ei lawn botensial.
 
Hyderwn y cewch flas ar fywyd beunyddiol ein hysgol drwy bori trwy’r wefan hon. Mawr obeithiaf y gwnewch fwynhau’r wefan a grewyd gan staff a disgyblion yr ysgol.

 "O'r fesen derwen a dyf"